Elusen yng Ngogledd Orllewin Cymru yw’r Eternal Forest Trust sy’n darparu claddedigaethau naturiol a choetir hygyrch i’r cyhoedd.

Mae’r elusen yn berchen ac yn rheoli coedwig heddychlon ger Pwllheli sy’n agored i bawb, ac mae’n unigryw yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfleoedd ar gyfer addysg a gwirfoddoli yn ogystal â chysur a chefnogaeth i alarwyr a’r rhai sy’n wynebu marwolaeth.

Claddedigaethau Naturiol

Rydym yn darparu gwasanaethau angladd, claddu a chysegru mewn coetiroedd. Mae claddedigaethau yn cael eu cyflawni mewn cytgord â natur; rhaid i bopeth sy’n cael ei gladdu fod yn fioddiraddadwy ac ni ddefnyddir unrhyw gemegau yn y pren.

Claddedigaethau | Galeri

Newyddion & Digwyddiadau

Ymunwch â ni i wirfoddoli yn y goedwig ar brynhawniau Sul olaf y mis, a bydd cyfle i fwynhau cacen afal hefyd!

Mae newyddion a digwyddiadau i’w gweld yn ein Cylchlythyr